Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
11 Gorffennaf 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13406
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.37
3 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun Ffermio Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 14.58
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Dechreuodd yr eitem am 15.36
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cenedl Masnach Deg – nodi 15 mlynedd
Dechreuodd yr eitem am 16.06
6 Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 16.44
NDM8324 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8325 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23;
b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
16 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru, bod yn rhaid i ni barhau i gyflwyno'r achos dros bwerau ychwanegol ond, yn y pen draw, mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau Cymru wyrddach, decach a mwy ffyniannus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau sylweddol Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar y systemau iechyd ac addysg, sydd ill dwy wedi derbyn toriadau tymor real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflog mynd adref rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r ffaith mai gan Gymru y mae cyfradd gyflogaeth isaf y DU.
Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8325 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
1. Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23;
b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.
2. Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023